Myfyrdod ar y Greadigaeth
Wele ddyfnder y cyfanfod
A distaw ddawns y ser.
Wele lonyddwch y nôs
A glesni tywyll tragwyddoldeb.
Wele’r golau llwydaidd oer
Cyn dyfod euraidd wawr.
Wele’r goedwig fawr, o’i chwsg
Yn deffro i gôr yr adar mân.
Wele’r mynyddoedd pell
Lle mae’r Fam Ddaear yn ymestyn am yr awyr.
Wele’r anferthol foroedd
A grym eu tonnau.
Wele pob anifail, pob pysgodyn,
Pob pryfetyn a phob blodyn.
Wele odidogrwydd y Cread
A’r hyn a’n gwna’r hyn ydym,
… a rhyfedda!
Meditation on the Creation
Behold the depth of space
And silent dancing of the stars.
Behold the stillness of the night
And deep blue of eternity.
Behold the cold grey light
Before the golden dawn.
Behold the sleeping forest
Awakened by the many songs of birds.
Behold the distant mountains
Where Mother Earth is reaching to the sky.
Behold the vastness of the oceans
And the power of the waves.
Behold each animal, each fish,
Each insect and each flower.
Behold the wonder of Creation
And that which makes us who we are
… and be amazed.
*
Y Sgwarnog
Ym misoedd yr onnen a’r wernen,
Pan fydd golau y dydd yn cryfhau,
Pan glywir pêr gân y fwyalchen
A bydd natur yn dechrau bywhau,
Pryd hynny, ymhell o sŵn dynion
Swarnogod ddaw allan liw dydd,
Gan ddawnsio ac ymladd yn wirion
A rhedeg yn wyllt ac yn rhydd.
Ar feysydd y gwyll a’r unigrwydd
Pan gyfyd y lleuad uwchben,
Mewn lle nad yw dyn yn gyfarwydd
Y sgwarnog a gyfyd ei phen,
Gan gyfarch hen dduwies yr wybren
A syllu’n hiraethus a hir,
Mae’r lloer yn fwy iddi na llusern
Sy’n g’leuo hen lwybrau y tir.
Hen enaid yw enaid y sgwarnog
Sydd yma cyn tarddiad pob ach,
Fe grwydrodd ein herwau mynyddog,
Mae’n gyfaill i’r dewin a’r wrach
D’wed rhai ei bod yn trawsffurfio,
D’wed eraill mai swynwraig yw hi,
Dan fantell Melangell mae’n cuddio
Rhag dicter yr heliwr a’i gi.
Tu hwnt i’r byd dynol blinderog,
Tu hwnt i’n pentrefi bach clyd,
Tu allan ar diroedd y sgwarnog,
Mae’r ysbryd hynafol o hyd.
Hen ysbryd ffrwythlondeb a natur,
Sy’n bod cyn ‘run rhwyd na ‘run dryll,
Hen ysbryd y blodau a’r blagur
Yn grwydro hyd feysydd y gwyll.
*
Hynafiaid
Ble heno fy hynafiaid?
Ar wasgar mewn mynwentydd coll?
Mewn beddau di enw?
Eu cyrff aeth yn un â’r pridd,
Yn rhan o’r ddaear.
Eu canu a ddaeth i ben,
Eu dawnsio a ballodd,
Eu llafurio a aeth heibio
Ac ôl eu llafur nid yw’n ddim.
Ble heno fy hynafiaid?
Pa le mae’r fintai o eneidiau?
Yn ynni nad yw’n darfod,
Yn sefyll fel tyrfa o’m hol
Ac yn ymestyn ymhell,
Nes mynd yn un â’r gorwelion.
Mae nhw yna yn gwrando.
Mae nhw yn dal i freuddweidio a gobeithio
A’u gofal sydd gyda mi o hyd.
Ble heno fy hynafiaid?
Yn y cof a’r genynnau?
Yng nghraidd fy modolaeth?
Eu gwaed sy’n dal i lifo yn fy ngwithiennau
A’r hen is-ymwybod tragwyddol
Sy’n treiddio fel afonydd cuddiedig
Trwy bob rhan ohonof
Yn cyfeirio fy ngherddediad,
Yn llywio fy ngeiriau.
Ancestors
Where now are my ancestors?
Dispersed in lost cemeteries,
In unmarked graves?
Their bodies have become one with the soil
A part of the earth.
Their singing has come to an end
Their dancing has ceased
Their labours have passed on
And the fruits of their labours have come to nothing.
Where now are my ancestors?
Where is that band of souls?
It is energy that does not finish
That stands behind me in a great crowd
And which extends outwards,
Until it becomes one with the horizons.
They are there listening,
They still have dreams and hopes
And they still care for me.
Where now are my ancestors?
In the memory and the genetics?
In the core of my being?
Their blood still flows through my veins
And the eternal subconscious
Permeates like hidden rivers
Through every part of me.
They are directing my steps
They are fashioning my very words.
Gwyn Edwards read the above poems at the May 2007 Rhwng event. When I asked him for a few details about himself, he gave me the following:
“It’s very difficult to say who we really are, because a lot of the time we ourselves do not know. Are we the good things we have done, but have forgotten about? Are we the mistakes we’ve made, which refuse to leave us? Are we the dreams we’ve had or the bright dawns and red sunsets we’ve witnessed? Are we that mysterious potential that we know is within us? Are we what our spirits want us to be?
Here are some facts about me: I eat meat, but feel bad about it. I drive a car, even though I know I should be living a more sustainable existence. I walk in the mountains seeking inspiration from streams, rocks, ravens and loneliness.
I’m trying to be a human being.”
Diolch o galon, Gwyn!