Cerdd gan Dr Graham Thomas
Iechyd yr NHS
Sut yn y byd pydredig cawn
Shalom, cymuned, Myfi
yw’r Duw sy’n dy iachau.
Egni a dwylo estyngedig,
trydan ddaear y bydysawd,
meddygon yn pecynu’r corff: ni’n
derbyn ein lle;
bodlonrwydd; bod; yn gall.
Yr iechyd meddwl, wedi’i wasgu mewn bocs
ty, swyddfa, cyfrifiadur.
Y crwydryn ar wyneb ddaear
yn symud o goeden, gwair ac anifail
at rhesi cyfyng arch farchnad.
Maes trefi yn malu’r meddwl,
cyfoeth yn gymhlethu’r awch
a’r iseldr yn wastadu.
Aciwpigo oedd y ffordd
i rhyddhau’r “chi”; cytbwyso Yin a Yang.
Pinau yn hel y llif poenus
o’r penysgwydd chwith.
A’r traedmwythwyr, arogldarthwyr a’r Reikwyr
yn ymuno a’r Bod Egniol
yn y gystadleuaeth effaith
am dri deg punt yr awr.
Brechiadau: MMR, polio, pertwsis
mae’r gem o siawns yn dechrau
am ddau, tri, pedwar mis.
A’r flwydd yn gam am fwy:
antigens yn lle afiechyd;
atebion i’r cwestiwn sydd wedi boddi
ym mor ein amheuon:
plant Affrica yn edrych yn syn.
Trwy’r cyffwrdd cariad: HIV.
Mechanwaith rhyw yn gynllun lladd
a’r fam a’r plentyn yn etifeddu’r
distawrwydd cerrig tai gweigion.
Cancer, coma, colli bron
“lle ‘da ni’n gyd yn mynd”.
Ond nid y munud hwnnw.
Mae pob awr i’w ddathlu.
Cip ar y galon: y curiad coll
ym mynwes ein bod.
Y sgwsh a’r clec, gwaed a ffibrin
falf yn cloi’n dyn.
Peirianwaith yr ysbryd yn cynnal bywyd;
harddwch ei nodwedd,
siapiau yn dawnsio ar sgrin
gydol oes.
At the August 2007 meeting of Rhwng: the Point Between, Dr Graham Thomas
explored with the group what “healing” might mean and how we approach seeking healing. He also looked at how we use the local health economy. In particular, we looked at some examples of how NHS healthcare providers attempt to deliver improved “health”. Examples included pharmacy/herbalism, counselling/wisdom, acupuncture/physical treatments, diagnostic technologies/divination, HIV and international health issues. Graham gave one participant an acupuncture treatment and another saw his heart on a portable monitor. A fascinating evening – thank you/diolch yn fawr, Graham!
Graham Thomas graduated in medicine from Aberdeen University in 1993.
He has practised in hospitals in North Wales, South Africa and Lesotho
and been a General Practitioner in Gaerwen since 1998. He has some
experience of the Christian healing ministry and is a medical
acupuncturist. Since 2002 Graham has helped with community HIV work in
rural Lesotho. This year he started training in cardiology and cardiac
ECHO imaging. He has a family and small holding in Cwm Y Glo.